Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 30 Tachwedd 2020
Amser:
09.31 -
10.24
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6476
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau a ystyriwyd yn flaenorol i’w sifftio ac sy’n awr yn destun craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3
2.1 SL(5)658 - Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
3.1 SL(5)661 – Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
4.1 SL(5)666 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
5.1 SL(5)651 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
5.2 SL(5)652 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
5.3 SL(5)660 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Llythyr gan y Prif Weinidog: Hygyrchedd a dealltwriaeth y cyhoedd o reoliadau’r Coronafeirws yng Nghymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
6.2 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd David Melding fuddiant mewn perthynas ag Eitem 6.2.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
6.3 Llythyr gan y Prif Weinidog: Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog a bod Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 wedi'i wneud.
6.4 Llythyr gan y Prif Weinidog: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
6.5 Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ac, mewn sesiwn breifat, cytunwyd i dderbyn y cynnig o friff technegol mewn perthynas â'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.
6.6 Llythyr gan y Prif Weinidog: Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Masnach - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Masnach a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
9 Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
10 Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.
11 Bil Marchnad Fewnol y DU - y wybodaeth ddiweddaraf
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Bil Marchnad Fewnol y DU.